Developing a citizen centred approach to the delivery of community based health and social care services in North Wales / Datblygu dull o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion yng nghymunedau’r Gogledd

Social Services Improvement Agency, Wales tendering on behalf of Local Government and NHS Partners in North Wales

Developing a citizen centred approach to the delivery of community based health and social care services in North Wales

Funding has been provided by the Welsh Assembly Government for a critical and ground-breaking project to identify the implications for North Wales of a shift
in the balance of health services towards community based health and social care services, and to conduct an options appraisal of the different models of  care delivery that could be adopted. The outcome if this work will be key in shaping future community services in the region.

Health and Social Care partners across North Wales, who are commissioning the work, invite tenders from consultants who have experience in health and social
care, understanding of the Welsh policy context, and a working knowledge of the impact of shifting the balance of care, to lead the programme on their  behalf.

We need work to commence in January 2008 and envisage that the programme will require between 60-80 days consultancy, to be completed within 6 months.

Further details and a full specification are available at www.ssiacymru.org.uk/communityservicestender

Tenders must be submitted by email to Vicky McCourt, Social Services Improvement Agency, at Vicky.mccourt@wlga.gov.uk by 4pm on Friday December 21st 2007.

Mae Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymru yn trefnu tendr ar ran Partneriaid yn y GIG a Llywodraeth Leol yn y Gogledd

Datblygu dull o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion yng nghymunedau’r Gogledd

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu prosiect allweddol ac arloesol er mwyn nodi’r goblygiadau yn y Gogledd petai’r pwyslais mewn gwasanaethau
iechyd yn symud tuag at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, ac i gynnal arfarniad dewisiadau o’r modelau gwahanol o ddarparu gofal y
gellid eu mabwysiadu. Bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn allweddol wrth drefnu gwasanaethau cymunedol yr ardal yn y dyfodol.

Mae partneriaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled y gogledd, sy’n comisiynu’r gwaith, yn gwahodd tendrau gan ymgynghorwyr sydd â phrofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn deall y cyd-destun polisi Cymreig, ac sydd â gwybodaeth ymarferol am effaith newid cydbwysedd gofal, i arwain y rhaglen ar eu rhan.

Rydym angen i’r gwaith ddechrau ym mis Ionawr 2008 a rhagwelwn y bydd angen 60-80 diwrnod o ymgynghori, a hynny i’w gyflawni o fewn 6 mis.
 
Mae gwybodaeth bellach a manyleb lawn ar gael yn www.ssiacymru.org.uk/communityservicestender

Mae’n rhaid anfon tendrau mewn e-bost at Vicky McCourt, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn Vicky.mccourt@wlga.gov.uk erbyn 4pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2007.

 

More from Community Care

Comments are closed.